Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 10 Tachwedd 2021
Amser y cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddull electronig.
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 3.
2 Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
3 Cwestiynau Amserol
(0 munud)
Ni ddewiswyd unrhyw Gwestiynau Amserol.
4 Datganiadau 90 Eiliad
(5 munud)
5 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig – Sbeicio
(60 munud)
NDM7824 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi â phryder y cynnydd gofidus yn yr achosion o sbeicio mewn lleoliadau ledled Cymru.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i weithio gyda rhanddeiliaid i:
a) darparu caeadau ar gyfer poteli a gorchuddion diodydd yn rhad ac am ddim mewn lleoliadau;
b) gwella diogelwch, gan gynnwys archwiliadau ar bocedi, bagiau, siacedi a chotiau;
c) hyfforddi staff ar sut i adnabod a delio ag achosion o sbeicio;
d) gwella teledu cylch cyfyng mewn lleoliadau i gynorthwyo gyda thystiolaeth i sicrhau bod y rhai sy'n gyfrifol yn cael eu herlyn.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Siân Gwenllian (Arfon)
Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:
1. Yn nodi â phryder y cynnydd gofidus mewn achosion o sbeicio mewn lleoliadau ledled Cymru ac yn cydnabod bod hyn yn rhan o broblem ehangach o ymosodiadau rhywiol ac aflonyddu tuag at fenywod sydd wedi'u gwreiddio mewn rhywiaeth a chasineb at fenywod.
Gwelliant 2. Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn credu bod y weithred o sbeicio yn drosedd lechwraidd sy'n tynnu urddas, hawliau a rhyddid person ac yn datgan yn glir mai hawl sylfaenol menywod yw teimlo'n ddiogel a byw'n rhydd.
Yn datgan yn glir nad yw'r cyfrifoldeb ar ddioddefwyr troseddau o'r fath ond ar y cyflawnwyr a'r rhai sy'n gwybod am unigolion sy'n cyflawni'r troseddau hyn ac nad ydynt yn adrodd am y cyflawnwyr pan fydd yn ddiogel gwneud hynny.
Yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â'i gwaith ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a'r ffocws o'r newydd ar ddwyn cyflawnwyr i gyfrif.
Yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i weithio gyda rhanddeiliaid allweddol, yn enwedig y rhai yn economi'r nos, i adolygu a gweithredu'r holl opsiynau diogelwch posibl ar frys.
Gwelliant 3. Siân Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cefnogi mentrau sy'n herio agweddau diwylliannol sy'n caniatáu i ymosodiadau rhywiol ac aflonyddu ddigwydd;
b) llunio strategaeth gynhwysfawr ar atal ymosodiadau rhywiol ac aflonyddu yn economi nos Cymru;
c) gofyn am eglurder gan Lywodraeth y DU ar ei chynlluniau i ddosbarthu casineb at fenywod yn drosedd casineb, a fyddai'n annog pobl i roi gwybod am achosion o sbeicio ac yn galluogi categoreiddio troseddau'n well er mwyn deall maint y broblem.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i:
a) gwella mecanweithiau a phrosesau adrodd ynghylch ymosodiadau ac aflonyddu rhywiol;
b) gwella'r gefnogaeth i ddioddefwyr sbeicio a mathau eraill o ymosodiadau ac aflonyddu rhywiol.
6 Dadl Plaid Cymru – Pysgodfeydd a dyframaethu
(60 munud)
NDM7825 Siân Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda rhanddeiliaid diwydiant i ddatblygu polisi pysgodfeydd a dyframaethu ymhellach, wedi'i ategu gan strategaeth sydd â chynaliadwyedd, buddsoddi ac ymgysylltu â'r diwydiant wrth ei wraidd.
7 Cyfnod Pleidleisio
8 Dadl Fer
(30 munud)
NDM7823 Janet Finch-Saunders (Aberconwy)
Canolbwyntio ar ymladd llifogydd: archwilio opsiynau i gryfhau'r dull o leihau'r perygl o lifogydd a'r ymateb i lifogydd
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 16 Tachwedd 2021